LLYFRAU PLANT gan 

Gareth William Jones

© Davis&Jones Consulting 2011. www.davisandjonesconsulting.com

Gwefan Gareth William Jones

Rhannu’r wefan:

Caru Nodyn

Caru Nodyn

Breuddwyd Monti

Breuddwyd Monti

Mewnwr a Maswr

Mewnwr a Maswr

Fy enw i yw Bethan Gwen Megan Elin Rose Jones. Dwi'n gwybod, mae'n enw hir ond dyna oedd Mam a Dad eisiau fy ngalw i pan ges i fy ngeni a ches i ddim dewis. Roedd fy mrawd sy'n efaill i mi  yn fwy ffodus. Dim ond Tristan Dylan Lloyd Jones yw ei enw fe. I ddweud y gwir dydwi ddim yn gwybod pam wnaeth Mam a Dad drafferthu i roi enwau i ni'n dau o gwbl achos "chi'ch dau" maen nhw'n ein galw ni bob amser.

 

"Hei! Chi'ch dau mae'ch swper chi'n barod. Chi'ch dau ewch i'ch gwelyau! Chi'ch dau, rhowch gorau i ymladd ac yn y blaen ac yn y blaen."


Wel, un bore amser brecwast y dydd o'r blaen roedd gan Mam newyddion.


 "Hei chi'ch dau, mae gen i newyddion i chi," meddai.


"O, oes," meddai Dad. "Mi fyddwch chi'ch dau wrth eich bodd pan glywch chi'r newyddion hyn."


"Hoffech chi'ch dau ddyfalu beth yw'r newyddion?" meddai Mam.


"Chi'n mynd i brynu beic newydd i mi," meddwn i.


 "Does dim byd yn bod ar y beic sydd gen ti," meddai Dad.


"Waw! Chi wedi trefnu gwylie yn Eurodisney," meddai T.D.L.


T.DL. dwi'n galw fy mrawd chi'n gweld.


"Na," meddai Mam. " Y newyddion yw fod Mam-gudd yn dod i aros hefo ni."


"Grêt!" gwaeddodd y ddau ohonon ni gyda'n gilydd yn anghofio'r beic ac Eurodisney.


"Wedes i y byddech chi'ch dau'n hapus," meddai Dad.


Mae fy mrawd a fi yn meddwl y byd o Mam-gudd. Mae hi'n hwyl. Wrth ei bodd yn chwarae gêmau hefo ni, bob amser yn dod ag anrheg i ni ac wrth ei bodd yn gwrando ar ein jôcs. Ac mae hi'n ardderchog am ddringo coed.


"Peidiwch â dweud, mae ganddi gyfarfod pwysig yng Nghaerdydd?" Holais.


"Wel, yng Nghaerfyrddin  i ddweud y gwir," meddai Dad ac mi chwarddodd y pedwar ohonon ni.


Arhosa funud. Dwi'n gwybod. Ti'n credu fod camgymeriad wedi ei wneud. Rwyt ti'n meddwl nad ydw i'n gallu sillafu'n iawn neu fod y bobl sydd wedi rhoi'r llyfr yma at ei gilydd wedi ychwanegu 'dd' pan nad oedd angen un. Wel, naddo ti'n gweld, achos Mam-gudd sy'n iawn achos dyna oedden ni'n ei galw hi. Hynny yw, pan nad oedd hi o gwmpas.


Iawn, oedd, roedd hi'n fam-gu achos roedd hi'n fam i Dad. Ond roedden ni'n ei galw hi'n fam-gudd achos ei bod hi'n cuddio pethau oddi wrthon ni. Bob tro roedd hi'n dod i aros 'da ni roedd hi un ai wedi bod mewn cyfarfod pwysig neu roedd hi ar fin mynd i gyfarfod pwysig ond doedden ni byth yn cael gwybod beth oedd y cyfarfodydd pwysig yma. A doedd hi byth yn fodlon dweud beth yn union oedd ei gwaith hi. Roedd hi'n cuddio 'r pethau hyn oddi wrthon ni. Dyna pam roedden ni'n ei galw hi'n fam-gudd.


"Mae'n ddrwg iawn gen i," fydd Mam-gudd wastad yn ei ddweud pan fyddwn ni'n gofyn iddi beth yw pwrpas y cyfarfod mae'n mynd iddo. "Ond alla'i ddim dweud wrthoch chi. Mae'n gyfrinachol mae arna'i ofn. Top secret."


"Mae'n ddrwg iawn gen i," fydd Mam-gudd wastad yn ei ddweud pan fyddwn ni'n gofyn beth yw ei gwaith hi. "Ond alla'i ddim dweud wrthoch chi. Mae'n gyfrinachol mae arna'i ofn. Top secret."


Roedd Mam-gudd yn byw yn Llundain ond roedd hi'n dod i aros 'da ni dro i dro. Y tro hwn roedd hi'n dod i aros 'da ni am bedwar diwrnod. Ac roedd ganddi gyfarfod pwysig yng Nghaerfyrddin.  Ychydig o filltiroedd o ble roedden ni'n byw.


Yn ystod y bore hwnnw pan oeddwn i yn yr ysgol mi ges i syniad. Ac roedd fy mrawd yn credu ei fod yn un o'r syniadau gorau roeddwn wedi ei gael erioed. Fy syniad oedd, fod ymweliad Mam-gudd y tro hwn yn gyfle da i geisio darganfod beth yn union oedd ei gwaith a beth yn union oedd hi'n ei wneud yng Nghaerfyrddin. Cyfle i ddarganfod beth oedd pwrpas y cyfarfod pwysig.A dyna'n union wnaeth fy mrawd a fi. Ond mi gawson ni dipyn o sioc a fu bron i ni greu llanast.


Darllenwch ddraft cyntaf y nofel nesaf yma nawr!