LLYFRAU PLANT gan 

Gareth William Jones

© Davis&Jones Consulting 2011. www.davisandjonesconsulting.com

Gwefan Gareth William Jones

Rhannu’r wefan:

Caru Nodyn

Caru Nodyn

Breuddwyd Monti

Breuddwyd Monti

Mewnwr a Maswr

Mewnwr a Maswr

Gareth William Jones

Awdur llyfrau Cymraeg i blant yw Gareth William Jones.  Yn ŵr i Gaenor, tad i Rhian a Llyr a thaid i Steffan a Tomos, mae Gareth yn byw yn y  Bow Street ger Aberystwyth.


Cafodd Gareth ei eni yn Nhregarth a'i fagu ym Methesda, Dyffryn Ogwen.


Yn Ysgol Penybryn ag Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen ym Methesda y cafodd ei addysgu ac yno y magwyd ei ddiddordeb mewn storiau, drama a pherfformio. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ble astudiodd Cymraeg a Drama. Gareth oedd y cyntaf yng Nghymru  i ennill gradd B.Ed. mewn drama drwy gyfrwng y Gymraeg.


Bu'n dysgu Drama yn Ysgol Gyfun Sandfields ac ysgol Uwchradd Tregaron ac yna bu'n drefnydd gweithgareddau diwylliannol i Llyfrgell Dyfed ac yn Swyddog Celfyddydau mewn addysg  i Gyngor Sir Dyfed cyn symud i ddarlithio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.


Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn mwynhau ysgrifennu nofelau i blant a chwarae golff.

Cliciwch yma i weld Adnabod Awdur y Cyngor Llyfrau >>

AA_GarethWilliamJones.pdf